posts-test-cy

array(5) {
  [0]=>
  object(WP_Post)#5319 (24) {
    ["ID"]=>
    int(976)
    ["post_author"]=>
    string(3) "294"
    ["post_date"]=>
    string(19) "2021-09-23 15:30:53"
    ["post_date_gmt"]=>
    string(19) "2021-09-23 15:30:53"
    ["post_content"]=>
    string(16026) "

Yng nghymdeithas brysur heddiw, mae ein gweithleoedd, ysgolion, cymunedau ac arferion beunyddiol yn aml yn llawn dop.


Mae'r amserlenni prysur hyn yn ei gwneud hi'n anodd cynnal patrymau cysgu iach.

Mae cwsg yn chwarae rhan fawr yn ein hiechyd corfforol a meddyliol. Er ein bod yn treulio traean o'n bywydau yn cysgu, mae amddifadedd cwsg yn hynod gyffredin.

Bydd tua 1 o bob 3 ohonom yn profi problemau cysgu achlysurol ar ryw adeg yn ein bywydau a bydd problemau cysgu parhaus yn effeithio ar 1 o bob 10 o bobl.

Pwysigrwydd cwsg

Mae cwsg yn chwarae rhan sylweddol wrth wella ac atgyweirio pibellau gwaed, cynnal pwysau iach a hormonau cytbwys, ac mae'n helpu i reoli lefelau siwgr.

Mae cwsg hefyd yn effeithio ar ein hwyliau, ein hymddygiad, ein gallu i ddysgu, a sut rydyn ni'n rhyngweithio ag eraill.

5 ffactor a allai fod yn effeithio ar eich cwsg

  1. Iechyd meddwl a chorfforol

Mae diffyg cwsg yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl – gall problemau gyda chwsg fod yn ffactor sy'n cyfrannu ac yn sgil-effaith iechyd meddwl gwael.

Mae problemau cwsg yn gyffredin mewn unigolion sy'n dioddef o anawsterau iechyd meddwl fel iselder ysbryd, ADHD a gorbryder.

Fodd bynnag, mae'n anodd pennu union achos ac effaith y berthynas rhwng cwsg ac iechyd meddwl, ac mae ymchwil i'r pwnc yn parhau.

Mae astudiaethau wedi dangos bod gwell ansawdd cwsg yn gysylltiedig â gwelliannau mewn iechyd meddwl a lles.

Gall iechyd corfforol gwael hefyd achosi i'ch cwsg ddioddef.

Dywedodd 18% o oedolion fod cyflwr iechyd corfforol neu anabledd wedi effeithio'n negyddol ar eu cwsg.

2. Perthnasoedd a ffordd o fyw

Gall ffordd o fyw cyflym gyda defnydd cyson o dechnoleg ei gwneud hi'n anodd ymlacio gyda’r nos a gall amserlenni cymdeithasol prysur eich atal rhag cael digon o oriau o gwsg.

Gall yfed caffein ac alcohol cyn mynd i'r gwely arwain at gwsg gwael.

Nid yw'r berthynas rhwng cwsg a pherthnasoedd cymdeithasol wedi'i diffinio'n llawn ond dangoswyd bod cydberthynas rhwng ansawdd cwsg a pherthnasoedd.

Mewn un astudiaeth, dangoswyd bod hanes o berthnasoedd sefydlog yn gysylltiedig â gwell ansawdd cwsg a pharhad cwsg. Ar ben hynny, mae astudiaeth ar wahân yn nodi bod ansawdd a phresenoldeb perthnasoedd cymdeithasol, yn enwedig ein perthnasoedd agosaf, yn chwarae rôl yn ansawdd cwsg.

3. Ysgol

Mae’r ysgol yn ffactor a all gyfyngu ar gwsg plentyn yn aml. Mae'r amseroedd dechrau cynnar yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ifanc ddeffro'n gynharach nag y byddai'n well gan gloc eu corff.


Efallai y bydd plant a phobl ifanc sy'n cysgu am y cyfnod cysgu a argymhellir yn gallu rheoli eu hemosiynau yn well ac maen nhw’n nodi gwell ansawdd bywyd a lles.

4. Gwaith

Mae gofynion gwaith uchel, straen yn y swydd, lefel y rheolaeth sydd gan bobl dros eu swydd, pwysau gwaith, bwlio yn y gweithle, ac anghydbwysedd rhwng ymdrech a gwobr oll yn ffactorau yn y gweithle a allai effeithio'n negyddol ar eich cwsg.

Mae 37% o oedolion sy'n gweithio yn nodi bod eu gwaith yn lleihau faint o reolaeth maen nhw'n teimlo sydd ganddyn nhw dros eu cwsg.

5. Yr amgylchedd

Mae amgylcheddau swnllyd a llachar yn gysylltiedig â diffyg cwsg.

Dylid cadw ystafelloedd gwely yn glaear, yn dawel ac yn dywyll i sicrhau eich bod yn cysgu’n dda.


Mae defnyddio sgrîn cyn cysgu yn gysylltiedig ag arferion cysgu afiach a gall cwsg gwael a golau LED, yn benodol, arwain at gwsg gwael.

Cwsg a COVID-19

Ffactor ychwanegol sydd wedi cael effaith negyddol ar gwsg yw COVID-19. Mae'r pandemig wedi arwain at oedolion y DU yn cysgu’n waeth.


Dywedodd dros 25% o oedolion y DU fod COVID-19 wedi effeithio'n negyddol ar ba mor dda y maen nhw’n cysgu.

Gwella eich cwsg

Er bod cwsg gwael yn hynod gyffredin, mae'r egwyddorion a'r arferion o ddatblygu perthynas iach â chwsg yn syml.

  1. Lleihau straen.
    • Gall straen gael effeithiau mawr ar gwsg. Gall ymarfer technegau ymlacio fel ymarferion anadlu neu ymlacio’r cyhyrau’n raddol blaengar helpu i leihau effeithiau straen.
  2. Diogelwch eich cwsg rhag ffordd o fyw a ffactorau amgylcheddol a allai gynhyrfu'ch patrwm cysgu.
    • Ystyriwch leihau dwyster golau artiffisial yn eich cartref a threulio rhai oriau cyn mynd i'r gwely heb dechnoleg fel eich ffôn, gliniadur neu deledu.
    • Gallwch greu amser i ymlacio cyn mynd i'r gwely.
    • Ceisiwch osgoi yfed alcohol neu gaffein cyn mynd i'r gwely.
  3. Gwnewch eich ystafell wely yn fwy addas i gysgu.
  4. Gwnewch eich patrwm cysgu’n bersonol trwy bennu faint o gwsg sydd ei angen arnoch a pha amseroedd sy'n gweithio orau i chi fynd i'r gwely a deffro.
  5. Ceisiwch gynnal patrwm amser gwely a chysgu rheolaidd.
    • Mae'n arbennig o bwysig codi ar amser tebyg bob dydd, hyd yn oed ar benwythnosau. Bydd hyn yn helpu i hyfforddi cloc eich corff i amseroedd cysgu a deffro rheolaidd.
    • Er mwyn cynyddu eich siawns o gysgu’n dda, ceisiwch osgoi cysgu trwy gydol y dydd. Os oes rhaid i chi gysgu, ceisiwch ei gadw'n fyr (tua 20 munud).

Rhagor o wybodaeth

Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) yn cynnig rhagor o wybodaeth am y berthynas rhwng cwsg ac iechyd meddwl.

Pennod 5 o bodlediad NCMH Piece of Mind: Mae Mental Health & Psychiatry yn trafod cwsg ac os yw'n symptom neu’n achos problemau iechyd meddwl.

Gwrandewch yma.

Adnoddau

" ["post_title"]=> string(47) "5 ffactor a allai fod yn effeithio ar eich cwsg" ["post_excerpt"]=> string(242) "Mae cysylltiad agos rhwng iechyd meddwl a chwsg. Ar ôl noson dda o gwsg, rydyn ni'n deffro'n teimlo'n adfywiol yn gorfforol ac yn feddyliol, ond gall noson wael o gwsg ein gadael ni'n teimlo'n ddioglyd yn gorfforol ac yn isel yn feddyliol. " ["post_status"]=> string(7) "publish" ["comment_status"]=> string(4) "open" ["ping_status"]=> string(4) "open" ["post_password"]=> string(0) "" ["post_name"]=> string(47) "5-ffactor-a-allai-fod-yn-effeithio-ar-eich-cwsg" ["to_ping"]=> string(0) "" ["pinged"]=> string(0) "" ["post_modified"]=> string(19) "2021-09-23 15:32:54" ["post_modified_gmt"]=> string(19) "2021-09-23 15:32:54" ["post_content_filtered"]=> string(0) "" ["post_parent"]=> int(0) ["guid"]=> string(33) "https://hhpwales.nhs.wales/?p=976" ["menu_order"]=> int(0) ["post_type"]=> string(4) "post" ["post_mime_type"]=> string(0) "" ["comment_count"]=> string(1) "0" ["filter"]=> string(3) "raw" } [1]=> object(WP_Post)#5316 (24) { ["ID"]=> int(835) ["post_author"]=> string(3) "294" ["post_date"]=> string(19) "2021-08-10 10:56:07" ["post_date_gmt"]=> string(19) "2021-08-10 10:56:07" ["post_content"]=> string(8993) "

Pan fyddwch yn cysylltu â HHP Cymru am y tro cyntaf, byddwch yn sgwrsio ag un o'n meddygon cynghorol i'n helpu i ddeall y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Mae Dr Rob Morgan yn un o'r cynghorwyr hyn ac mae wedi rhannu ei stori am sut y daeth i weithio i HHP Cymru.

Mae HHP Cymru yn cynnig mynediad at gymorth iechyd meddwl, sy’n cynnwys trefnu apwyntiad gyda therapydd. Rydym yn cynnig hunangymorth, hunangymorth gydag arweiniad, cefnogaeth gan gymheiriaid a therapïau wyneb yn wyneb rhithwir gydag arbenigwyr achrededig. Cewch ragor o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu yma.

Dechreuodd y meddyg teulu rhan-amser Dr Rob Morgan weithio fel meddyg cynghorol ar gyfer Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru (HHP Cymru) ym mis Mawrth eleni.

Wrth i’r pandemig roi mwy o bwysau ar y GIG ar bob lefel, mae Rob yn egluro bod hyn yn ei dro wedi achosi straen ymhlith staff.

Esboniodd Rob:

“Fel canghennau eraill o ofal iechyd, mae Ymarfer Cyffredinol yn anodd ar hyn o bryd, wrth i feddygon geisio delio ag ôl-groniadau o wasanaeth arferol a’r galw o ddydd i ddydd am apwyntiadau, ar gyfer cyflyrau acíwt a rhai tymor hir, ac yn amlach na pheidio yn gysylltiedig â COVID-19 mewn rhyw ffordd.

“Wrth i mi ddod i ddeall y sefyllfa yma ym mis Ionawr eleni dechreuais feddwl. Gan fod gen i fwy o amser rhydd nag erioed o’r blaen yn fy ngyrfa, beth am geisio gweithio i HHP a pharhau i ddefnyddio’r sgiliau gwrando anfeirniadol rydw i wedi bod yn eu defnyddio drwy fy ngyrfa i gyd?”

Cafodd COVID-19 effaith y tu hwnt i fywyd proffesiynol Rob pan gafodd ddiagnosis o COVID-19. Ar ôl gweld drosto'i hun yr effeithiau negyddol y gall COVID-19 eu cael ar iechyd corfforol a meddyliol, penderfynodd Rob ymuno â HHP Cymru.

“Rwy’n siŵr bod fy mhrofiad fel meddyg teulu ac fel rhywun a gafodd ei heintio ar ddechrau’r don gyntaf wedi cael rhywfaint o ddylanwad ar fy mhenderfyniad i helpu.

“Roedd siarad â phobl gyda’r salwch ofnadwy hwn yn ôl ym mis Mawrth 2020 yn brofiad newydd, er fy mod i wedi gweld llawer o bobl sâl yn fy mywyd gwaith.

“Roedd cael COVID-19 ei hun yn brofiad na hoffwn ei gael eto, ac er i mi fod yn ddigon ffodus i beidio â bod angen mynd i’r ysbyty, mae’n rhy fuan i anghofio’r teimladau hynny o ansicrwydd ynghylch cael salwch nad oeddem yn gwybod llawer amdano ar y pryd.

“Doedd yr ansicrwydd hwnnw ddim yn rhywbeth unigryw i mi na chleifion eraill, roedd yn rhywbeth roedd aelodau teulu a roddodd ofal a chysur yn ei deimlo’n ddwfn hefyd.”

Canfu Rob fod ei brofiad personol o gael COVID-19 wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach iddo o brofiadau ei gleifion.

“Wrth siarad i fwy a mwy o gleifion dros y 12 mis diwethaf, yr hyn sydd wedi dod yn amlwg i mi yw’r baich seicolegol y mae llawer o bobl wedi’i ddioddef.”

Yn ôl Rob, mae’r beichiau seicolegol hyn yn cynnwys:

  • Ymdopi ag unigrwydd yn ystod y cyfnod clo
  • Gweithio dan amgylchiadau sy’n achosi straen, heb ddiwedd mewn golwg
  • Colli aelodau o'r teulu a chydweithwyr i'r salwch
  • Teimlad o golli hyder

Ydych chi wedi canfod bod y trafferthion seicolegol sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn effeithio ar weithwyr y GIG?

Mae Rob yn trafod sut mae wedi sylwi bod y trafferthion seicolegol sy'n gysylltiedig â COVID-19

“yn fwy amlwg ymhlith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi bod ar y rheng flaen, ac sydd wedi mynd y tu hwnt i ddyletswyddau arferol, gan roi eu hunain mewn perygl oherwydd natur eu gwaith.

“Mae’r pwynt olaf hwn yn rhoi pwyslais ychwanegol ar fy rhesymau dros eisiau helpu unigolion o’r fath, ac mae gweithio i HHP wedi fy ngalluogi i wneud hyn yn wythnosol.”

Beth yw rôl meddyg cynghorol HHP Cymru?

“Fel meddyg cynghorol mae fy rôl yn gwbl wahanol i rôl meddyg teulu. Dydw i ddim yn cynnig therapi a dydw i ddim yn rhoi diagnosis. Rwy'n gwrando, yn annog, ac yn helpu pwy bynnag sy'n ffonio i rannu ei stori, ac yn dweud beth sydd ei angen er mwyn i bethau allu symud ymlaen.

“Mae sgyrsiau yn gyfrinachol ac yn gyfle i bobl siarad â rhywun nad yw'n gysylltiedig â'u sefyllfa, ac sy'n gallu clywed pethau o'r newydd a heb unrhyw ragfarn. Mae'r rhan fwyaf o fy sgyrsiau'n para hanner awr ond mae rhai yn fyrrach neu’n hirach.

“Ar ddiwedd sgwrs gyda meddyg cynghorol, rydyn ni’n trafod opsiynau i benderfynu beth i’w wneud nesaf, a pha opsiynau a allai fod o fudd i’r person ar gyfer y dyfodol.

“Gall hyn fod ar sawl ffurf, a gall amrywio o atgyfeirio i therapydd neu beidio â gwneud llawer o gwbl, gan fod yr unigolyn dan sylw wedi dod o hyd i’r atebion priodol ei hun beth bynnag. Does dim ffordd gywir nac anghywir o’i wneud.”

Mae Dr Rob Morgan yn un o'r meddygon cynghorol y byddwch yn siarad â nhw os byddwch yn cysylltu â HHP Cymru. Y ffordd hawsaf o gael mynediad at adnoddau HHP Cymru yw drwy'r ffurflen atgyfeirio.

Ydych chi wedi wynebu unrhyw heriau wrth symud o weithio fel meddyg teulu i fod yn feddyg cynghorol?

“Yn fy marn i, yr her fwyaf oedd symud i ffwrdd o fy rôl fel meddyg teulu i rôl meddyg cynghorol a gweithredu fel cyfrwng ar gyfer rywbeth a all arwain at newid yn hytrach na chyflwyno’r newid hwnnw fy hun.

“Mae’r cyfarfodydd tîm rheolaidd a’r oruchwyliaeth gefnogol y mae HHP yn ei chynnig i mi a meddygon cynghorol eraill yn rheolaidd wedi helpu’r mudiad hwn.”

Adnoddau

Darllenwch ragor

Anesthetydd ymgynghorol sy'n byw yng Nghaerdydd yw Sarah. Mae hi'n rhannu ei phrofiad o sut y gwnaeth HHP Cymru ei helpu drwy drafferthion personol.

  • Darllenwch stori Sarah yma
" ["post_title"]=> string(47) "Cwrdd â'r bobl sydd yma i helpu: Dr Rob Morgan" ["post_excerpt"]=> string(0) "" ["post_status"]=> string(7) "publish" ["comment_status"]=> string(4) "open" ["ping_status"]=> string(4) "open" ["post_password"]=> string(0) "" ["post_name"]=> string(44) "cwrdd-ar-bobl-sydd-yma-i-helpu-dr-rob-morgan" ["to_ping"]=> string(0) "" ["pinged"]=> string(0) "" ["post_modified"]=> string(19) "2021-08-19 14:49:32" ["post_modified_gmt"]=> string(19) "2021-08-19 14:49:32" ["post_content_filtered"]=> string(0) "" ["post_parent"]=> int(0) ["guid"]=> string(33) "https://hhpwales.nhs.wales/?p=835" ["menu_order"]=> int(0) ["post_type"]=> string(4) "post" ["post_mime_type"]=> string(0) "" ["comment_count"]=> string(1) "0" ["filter"]=> string(3) "raw" } [2]=> object(WP_Post)#5315 (24) { ["ID"]=> int(814) ["post_author"]=> string(3) "294" ["post_date"]=> string(19) "2021-08-06 11:58:03" ["post_date_gmt"]=> string(19) "2021-08-06 11:58:03" ["post_content"]=> string(11127) "

Mae llawer o bobl yn meddwl am PTSD fel rhywbeth sy'n effeithio ar y rhai sydd wedi cael profiadau trawmatig wrth wasanaethu yn y lluoedd arfog, ond gall effeithio ar unrhyw un sydd wedi profi sefyllfa drawmatig.

Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD) yw’r enw a roddir i set o symptomau y mae rhai pobl yn eu datblygu ar ôl profi digwyddiadau trawmatig mawr. Gall y digwyddiad trawmatig fod yn sefyllfa unigol neu’n rhywbeth ddigwyddodd dros fisoedd neu flynyddoedd lawer.

Gellir achosi’r cyflwr gan ddigwyddiadau fel damweiniau traffig difrifol, treisio neu gam-drin rhywiol, trais domestig, ymosodiad corfforol, profiad trawmatig wrth roi genedigaeth, tystio i farwolaeth dreisgar, neu bron unrhyw sefyllfa arall sy’n eithriadol o fygythiol neu drychinebus ac sy’n debygol o achosi trallod i unrhyw un, fwy neu lai.

Symptomau PTSD

Mae pobl sy’n byw gyda PTSD yn aml yn profi atgofion gofidus ymwthiol o’r digwyddiad dro ar ôl tro.

Gall fod teimlad hefyd o ail-fyw (neu ‘ail-brofi’) y digwyddiad drwy ‘fflachiadau’ neu ‘hunllefau’, sy’n gallu achos llawer iawn o drallod a dryswch.  Gall fod adweithiau corfforol hefyd fel ysgwyd a chwysu.

Yn fwy diweddar, mae PTSD cymhleth hefyd wedi’i nodi, a all gynnwys symptomau tebyg i PTSD, ond gyda symptomau ychwanegol fel anhawster rheoli eich emosiynau, teimladau cyson o anobaith, symptomau datgysylltiol fel dadbersonoli, a llawer mwy.

10 peth efallai nad oeddech chi’n eu gwybod am PTSD

  1. Mae PTSD yn effeithio ar ddwy filiwn o bobl yn y Deyrnas Unedig.
  2. Dim ond un o bob pedwar o’r rhai sy’n byw gyda PTSD sy’n cael triniaeth.
  3. Mae £400,000 yn cael ei wario ar ymchwil ar PTSD bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig.
  4. Gall ymarfer corff helpu i reoli PTSD.
  5. Mae gan bobl drothwyon gwahanol ar gyfer trawma.
  6. Gall plant ddatblygu PTSD hefyd.
  7. Mae rhai astudiaethau’n dangos bod rhoi cyfle i bobl siarad am eu profiadau yn fuan iawn ar ôl digwyddiad trychinebus yn gallu lleihau rhai o symptomau PTSD.
  8. Mae menywod yn wynebu risg uwch o ddatblygu PTSD.
  9. I rai pobl, efallai mai therapi fydd y cyfan sydd ei angen o ran triniaeth.
  10. Hyd yn oed pan na fyddant mewn perygl mwyach, bydd rhai pobl sydd â PTSD yn rhyddhau hormonau o’r enw cortisol ac adrenalin yn barhaus – yr ymateb ‘brwydro, rhedeg i ffwrdd neu rewi’.

Cael cymorth

Os credwch y gallech chi fod yn dioddef o PTSD, dylech weld eich meddyg teulu yn gyntaf, a fydd yn cynnal asesiad cychwynnol.

Yn dibynnu ar ganlyniad hynny, bydd eich meddyg teulu yn penderfynu a oes angen atgyfeiriad arnoch at weithiwr iechyd meddwl gofal sylfaenol, eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol neu wasanaeth arall, yn ôl eich anghenion.

Os cewch eich cyfeirio at eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol lleol, byddwch yn derbyn asesiad pellach, manylach, ac yna efallai y cewch eich cyfeirio ymlaen at wasanaeth straen trawmatig arbenigol neu byddwch chi’n derbyn help oddi mewn i’r tîm.

Triniaeth ar gyfer PTSD

Bernir mai therapïau seicolegol yw’r triniaethau mwyaf effeithiol ar gyfer PTSD.

Yn benodol, ceir tystiolaeth dda bod dau fath o driniaethau seicolegol sy’n canolbwyntio ar y digwyddiad trawmatig o’r enw Therapi Gwybyddol Ymddygiadol gyda Ffocws ar Drawma (TFCBT) a Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad y Llygaid (EMDR) yn effeithiol.

Dangoswyd bod y ddwy dechneg yn lleihau’r symptomau a’r trallod a brofir gan ddioddefwyr PTSD.

Mae treialon ymchwil Prifysgol Caerdydd i driniaethau newydd sy’n defnyddio’r ddwy dechneg hyn wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf:

  • Edrychodd treial RAPID ar greu offeryn tywys hunangymorth newydd, gan ddefnyddio rhaglen ar-lein o’r enw Gwanwyn.
  • Mae 3MDR neu Dadsensiteiddio ac Atgyfnerthu’r Cof mewn modd Modiwlaidd, gyda chymorth Symudiad, yn driniaeth newydd, a ddatblygwyd yn wreiddiol yn yr Iseldiroedd, sy’n cyfuno Defnydd o Realiti Rhithwir ac EMDR, ac yn ychwanegu symud trwy gerdded ar felin draed.

Weithiau defnyddir triniaethau eraill fel meddyginiaeth a thechnegau rheoli straen i drin PTSD a gallant fod o gymorth, er na ddangoswyd bod y rhain mor effeithiol.

Mae amrywiaeth o opsiynau triniaeth ar gyfer PTSD, ac er y gall meddyginiaeth fod o gymorth mawr, nid dyna’r unig opsiwn.  Yn aml, gall siarad â rhywun proffesiynol fod yn ffordd fwyaf effeithiol o weithio trwy’r trawma a dysgu sut i reoli’r symptomau.

Maddeuwch i chi’ch hunan

Rhowch amser a lle i chi’ch hun i gydnabod yr hyn yr ydych wedi bod drwyddo a’r ffaith eich bod yn cael adweithiau emosiynol cryf iddo.

Dylech osgoi defnyddio alcohol a chyffuriau i wneud i chi deimlo’n well. Er y gallai’r rhain wneud i chi deimlo’n well yn y tymor byr, gallant achosi problemau difrifol i chi a’ch anwyliaid. Gallant hefyd waethygu symptomau ac ymyrryd â thriniaeth.

Cadwch at batrymau arferol gymaint â phosibl. Os ydych chi’n cael trafferth cysgu, ceisiwch gadw at amser rheolaidd pan fyddwch chi’n deffro ac yn codi a chofiwch osgoi diodydd sy’n cynnwys caffein ar ôl 4pm.

Awgrymiadau i ofalwyr

  • Ceisiwch fod yn amyneddgar a dangos dealltwriaeth at yr unigolyn sydd â PTSD.
  • Peidiwch â rhoi pwysau ar y sawl sydd â PTSD i siarad am eu profiad, ond rhowch amser a lle iddyn nhw siarad amdano os byddan nhw’n dymuno gwneud hynny.
  • Os nad ydynt wedi gwneud hynny, ceisiwch eu hannog i geisio cymorth proffesiynol. Lle da i ddechrau yw trafod pethau gyda’ch meddyg teulu.

Adnoddau

Darllen pellach

" ["post_title"]=> string(53) "10 peth efallai nad oeddech chi’n eu gwybod am PTSD" ["post_excerpt"]=> string(0) "" ["post_status"]=> string(7) "publish" ["comment_status"]=> string(4) "open" ["ping_status"]=> string(4) "open" ["post_password"]=> string(0) "" ["post_name"]=> string(50) "10-peth-efallai-nad-oeddech-chin-eu-gwybod-am-ptsd" ["to_ping"]=> string(0) "" ["pinged"]=> string(66) " https://www.ptsdjournal.com/posts/10-surprising-facts-about-ptsd/" ["post_modified"]=> string(19) "2021-08-06 11:58:03" ["post_modified_gmt"]=> string(19) "2021-08-06 11:58:03" ["post_content_filtered"]=> string(0) "" ["post_parent"]=> int(0) ["guid"]=> string(33) "https://hhpwales.nhs.wales/?p=814" ["menu_order"]=> int(0) ["post_type"]=> string(4) "post" ["post_mime_type"]=> string(0) "" ["comment_count"]=> string(1) "0" ["filter"]=> string(3) "raw" } [3]=> object(WP_Post)#5314 (24) { ["ID"]=> int(674) ["post_author"]=> string(3) "289" ["post_date"]=> string(19) "2021-06-09 04:41:00" ["post_date_gmt"]=> string(19) "2021-06-09 04:41:00" ["post_content"]=> string(14800) "

Mae Sarah yn anaesthetydd ymgynghorol o dros ugain mlynedd o Gaerdydd.

Mae Sarah yn rhannu sut y gwaethygwyd ei hiechyd meddwl gan anawsterau yn ei theulu a sut mae HHP Cymru a'i gwasanaethau therapi wedi ei helpu i gael gafael ar y cymorth yr oedd ei angen arni i ymdopi.

Mae Sarah wedi bod yn garedig iawn yn rhannu ei stori yn y gobaith y bydd yn helpu eraill i estyn allan am gymorth pan fydd ei hangen arnynt.

a woman walking with a child in a forest

"Dechreuodd pethau i mi dair blynedd yn ôl ym mis Ionawr 2018. Cefais fywyd normal, prysur: wedi priodi'n hapus gyda dwy ferch yn eu harddegau ac nid oeddwn erioed wedi dioddef problemau iechyd meddwl o'r blaen. Roedd bywyd yn dda ond yna dechreuodd pethau ddadorchuddio.

"Bu farw fy mam ym mis Ionawr 2018, a oedd yn annisgwyl, ond rwy'n teimlo fy mod wedi ymdopi'n weddol dda. Efallai fy mod wedi cael fy cadw gartref ac efallai fy mod wedi tynnu fy llygad oddi ar y bêl gyda'm merched yn eu harddegau."

Cymerodd sefyllfa deuluol Sarah dro digynsail arall pan gafodd ei merch ieuengaf ddiagnosis o anorecsia ym mis Mehefin 2018.

Eglurodd Sarah, "Daeth y diagnosis hwn ar ôl achos o iselder i'm merch a oedd wedi'i chuddio'n dda o'r teulu, ond daethom at ein gilydd i fynd i'r afael ag ef.

"Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n deall anhwylderau bwyta ac roeddwn i'n benderfynol ein bod ni'n mynd i frwydro i gael fy merch yn ôl i iechyd da. Ond yn anffodus, cymerodd ei doll ar bob un ohonom.

"I ddechrau, roeddwn i'n cael trafferth ar lefel straen uchel iawn yn y gwaith a'r cartref ond erbyn mis Awst roedd fy merch yn sâl iawn, ac roedd angen gofal 24 awr gyda syniadau hunanladdol ac anorecsia.

"Roeddwn i'n gweld na allwn weithio mwyach ac es i i weld fy meddyg teulu ar hyn o bryd a gofyn am rai gwrth-iselder. Roeddwn i'n gwybod bod angen gwydnwch arnaf i barhau ac roeddwn i'n cael trafferth cysgu, bwyta a chanolbwyntio. Rhoddais bopeth i'm merch ac roedd ein bywydau newydd gael eu troi wyneb i waered."

Beth wnaeth i chi sylweddoli'n gyntaf nad oedd pethau'n iawn i chi?

"Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n ymwneud ag ymdopi gartref yn unig ond nes eich bod wedi byw gyda rhywun ag anorecsia neu'n ei adnabod, nid ydych yn gwybod beth mae'n ei wneud i deulu. Mae'n anhygoel o anodd.

"Yn y gwaith, roedd fy meddwl yn ymwneud yn llwyr ag a oedd fy merch yn ddiogel bob amser. Roeddwn i'n gwneud triniaethau a gweithdrefnau ac roeddwn i'n teimlo bod pethau'n mynd i fod yn anniogel. Yr oeddwn mewn sefyllfa lle gallwn fod yn beryglus.

"Roeddwn i'n meddwl bod rhaid i mi stopio a chymryd peth amser allan, gan feddwl i ddechrau mai dim ond ychydig wythnosau fyddai hynny."

Fodd bynnag, yn anffodus, datblygodd trafferthion Sarah ymhellach.

"Cymerodd fy merch orddos fis yn ddiweddarach ac yn ffodus fe oroesodd ond roedd lefel y gofal yr oedd ei hangen arno wedyn yn atal fy mod yn canolbwyntio ar unrhyw beth arall.

"Fe wnes i barhau i weld fy meddyg teulu bob mis ac er ei bod yn gefnogol, trodd yn stori arswyd am fywyd gartref ac nid llawer amdanaf fi fy hun a sut roeddwn i'n delio â phethau. Doeddwn i ddim yn canolbwyntio ar fy iechyd meddwl a rhoddwyd popeth i'm merch.

"Dyna oedd y chwe mis cyntaf; Ni welais unrhyw ffordd o ddelio ag ef ar wahân i gynyddu fy dos o wrthiselder a bod gartref yn llawn amser."

Wnaethoch chi geisio cymorth y tu hwnt i'ch meddyg teulu?

"Roeddwn i'n teimlo nad oedd amser. Nid oedd lle yn fy mywyd i ofalu amdanaf ar wahân i'r ymweliad misol hwnnw â meddyg teulu; dyna'r cyfan y gallwn ei wneud ac nid oedd yn ymddangos yn iawn ar y pryd i wneud unrhyw beth arall.

"Gofynnais am gael gweld Iechyd Galwedigaethol oherwydd fy mod yn gobeithio dychwelyd i'r gwaith. Cawsom safle ychydig yn fwy sefydlog gyda fy merch ym mis Ionawr 2019.

"Roeddwn i'n meddwl fy mod wedi cymryd digon o amser i ffwrdd a nawr roedd angen i mi ddychwelyd ato eto.

"Fe wnes i ddychwelyd i'r gwaith yn gyflym ond doedd dim ffordd o gynllunio diwrnod gwaith hawdd fel anaesthetydd; mae'n gwbl anrhagweladwy.
Roeddwn i'n ôl i mewn ac yn gweithio'r gorau y gallwn. Doeddwn i ddim yn wych ond roeddwn i'n cael trafferth drwyddo gan feddwl mai dyma lle y dylwn i fod.

"Roeddwn i'n ymdopi gartref ac fe wnaethom grwydro ymlaen nes i ail orddos fy merch lle mae'r byd newydd stopio a'r olwynion yn dod i ffwrdd eto.

"Doeddwn i ddim yn gallu ymdopi ag unrhyw beth. Yr oedd hynny'n drobwynt i mi ac ar waelod y graig i'm merch. Cafodd ei chadw fel claf mewnol am ychydig fisoedd a phenderfynais ddefnyddio'r amser hwnnw i geisio helpu fy hun."

Hunangyfeirio at HHP Cymru

"Dywedodd cydweithiwr wrthyf am HHP Cymru a ffoniais nhw. Cefais ymateb ar unwaith a chafodd gynghorydd y llwyddais i'w weld ymhen ychydig wythnosau. Roedd y cyfan yn effeithlon iawn a dyna sut y dechreuais ar fy llwybr gyda HHP."

Cysylltodd Sarah â HHP Cymru dros y ffôn. Gyda lansiad ein gwefan newydd, y ffordd gyflymaf o gyfeirio eich hun am gymorth yw drwy ein ffurflen atgyfeirio.

"Roedd HHP Cymru yn wasanaeth defnyddiol iawn ac esboniwyd yn dda yr esboniad o'r 8 sesiwn a gefais. Trafodwyd hanes iechyd meddwl byr a dechreuwyd sesiynau CBT (Therapi Gwybyddol Ymddygiadol). Roedd elfennau da a drwg i'r profiad cyffredinol.

"Gwelais gwnselydd braf iawn a buom yn siarad am yr hyn a oedd yn digwydd ond cefais fod y sesiynau wedi troi'n drafod problemau fy merch, yn hytrach na'm cynorthwyo'n uniongyrchol i reoli fy mhryder neu wella fy mhrofion cysgu.

"Mae'n ddigon posibl mai dyma'r lle yr oeddwn ynddo'n feddyliol ac mae gwahanol bethau'n helpu ar wahanol adegau ar daith iechyd meddwl unigolyn ond roeddwn i'n meddwl fy mod wedi gwneud fy ngorau ac wedi dod o hyd i'r sesiynau'n fwy fel lle i siarad yn unig."

Beth ddigwyddodd nesaf?

"Ar ôl y sesiynau CBT cychwynnol hynny, fe'm cyfeiriwyd am asesiad drwy fy yswiriant diogelu incwm a oedd yn amlygu pa mor wael oedd pethau i mi. Hwn oedd fy mhwynt isaf.

"Bron i flwyddyn ar ôl fy ymweliad cyntaf â'r meddyg teulu, fe wnaeth y seiciatrydd gynnal asesiad meddygol a deall fy sefyllfa'n gyflym iawn.

"Cefais gynnig sesiynau pellach gyda seicotherapydd lleol a ddaeth yn drobwynt go iawn i mi. Roeddwn ar y cam lle'r oedd fy symptomau digalon ar eu gwaethaf ac roeddwn wedi bod yn cefnogi fy merch yn llawn drwy flwyddyn a hanner o ofal cyson tra'n profi fy m phroblemau fy hun.

two women speaking across a desk

"Roedd y seicotherapydd yn cymryd ymagwedd wahanol ac roeddwn i'n gallu esbonio mwy amdanaf fi fy hun a fy mywyd. Fe wnaeth y sesiynau fy helpu i ddeall pam roeddwn i'n meddwl mewn rhai ffyrdd, oherwydd fy magwraeth a'm profiadau fy hun drwy gydol fy ngyrfa. Dechreuodd popeth wneud llawer mwy o synnwyr a defnyddiwyd technegau a oedd yn taro tant gyda mi.

"Cefais fy hun yn stopio, meddwl a gweithio mewn ffordd wahanol. Fe'm gwelwyd drwy ddeuddeg sesiwn gyda'r un olaf yn cael ei gynnal ym mis Medi 2020."

Mae HHP Cymru yn darparu mynediad at gymorth iechyd meddwl sy'n cynnwys trefnu apwyntiadau gyda therapyddion. Rydym yn cynnig hunangymorth, hunangymorth dan arweiniad, cefnogaeth gan gymheiriaid a therapïau wyneb yn wyneb rhithwir gydag arbenigwyr achrededig. Dewch o hyd i ragor o fanylion am sut y gallwn eich helpu.

Sut mae pethau i chi nawr?

Mae'r offer a'r gefnogaeth a gynigir drwy sesiynau therapi wedi rhoi strategaethau newydd i Sarah i'w helpu i ymdopi pan fydd bywyd yn mynd yn anodd.

"Dychwelais i'r gwaith ar ddechrau argyfwng COVID-19 ym mis Ebrill a hyd yn oed yno sylwais ar sut roeddwn i gymaint yn well am ymdopi nag oeddwn i'n meddwl oedd yn bosib.

"O fewn ychydig fisoedd, roeddwn i'n teimlo'n fwy fy hun nag yr oeddwn wedi'i wneud yn ystod y tair blynedd diwethaf. Rwyf wedi lleihau fy meddyginiaeth ac mae popeth yn edrych yn fwy cadarnhaol gan fy mod wedi dysgu delio â phethau mewn ffordd wahanol.
"Mae fy hapusrwydd yn cael ei orchymyn gan ferch ac mae'r rholercoaster o iechyd meddwl yn effeithio ar bobl yn wahanol ac rydym yn cael gostyngiad nawr. Mae'r dyddiau diwethaf wedi bod yn anodd, ond gallaf edrych ar bethau'n gliriach.

"Rwy'n awyddus i ofalu am fy hun ac yn benderfynol o beidio â mynd yn ôl i'r man lle'r oeddwn o'r blaen.

"Rwyf bellach yn gweithio'n rhan-amser, mae fy llwyth gwaith yn fwy hylaw ac mae gennyf gefnogaeth dda yn y gweithle. Rwy'n gwybod bod cymorth yno drwy Iechyd Galwedigaethol a HHP Cymru os bydd ei angen arnaf eto ac mae hynny'n fy helpu i deimlo fy mod yn cael fy nghefnogi."

A oes gennych unrhyw gyngor i'w rannu gyda staff sy'n teimlo eu bod yn cael trafferth?

"Ceisiwch gymorth ychwanegol yn gynharach a pheidiwch ag oedi fel y gwnaethwn i. Cynigiodd Iechyd Galwedigaethol brofiad defnyddiol a chadarnhaol. Siaradwch â'ch meddyg teulu, cyfeiriwch eich hun at HHP Cymru a gwnewch eich iechyd a'ch lles eich hun yn flaenoriaeth.

"Yn olaf, byddwn yn argymell bod pawb yn mynd allan pan fyddan nhw'n gallu. Mae mynd i mewn i'r awyr agored a theimlo'n rhan o natur yn fy helpu i deimlo'n dda. Mae cwsg yn bwysig hefyd gan fod popeth yn teimlo'n waeth pan fyddwch chi'n gor-ddweud.

"Mae wedi bod yn anodd cadw mewn cysylltiad â ffrindiau yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn enwedig gan nad oedd pobl yn aml yn gwybod y peth gorau i'w ddweud, ond rwyf wedi gweld bod fy mhrofiad wedi gwneud i mi weld pethau'n wahanol gyda fy mherthynas. Maddeuaf i bobl, mae fy agwedd at bobl a bywyd wedi newid yn llwyr.

"Dwi wastad wedi bod yn berson sy'n cael ei yrru'n fawr, ond dwi nawr yn meddwl am drafferthion pawb mewn ffordd fwy caredig. Mae rhai pethau da wedi dod allan o'r daith erchyll hon o'n herwydd ni ac mae'r ffordd rwy'n byw fy mywyd nawr yn well nag o'r blaen."

Mae stori Sarah a'i theulu yn ein hatgoffa o'r rhwystrau a'r anawsterau a all achosi newid yn ein hiechyd meddwl pan fyddwn yn cael ein gorfodi i wynebu heriau bywyd newydd ac annisgwyl.

Gall amseru, perthnasoedd a chael gafael ar gymorth effeithiol drwy therapïau siarad, yn enwedig wrth fyw gydag anhawster parhaus, effeithio ar ein hiechyd meddwl o ddydd i ddydd.

Mae HHP Cymru yma i helpu os oes arnom ein hangen.

Adnoddau

• Ffurflen atgyfeirio HHP Cymru
• Adnoddau hunangymorth HHP Cymru
• Taflenni iechyd meddwl NCMH

Darllen mwy

Darllen mwy Mae Natalie yn hyfforddai meddyg teulu sy’n byw yng Ngorllewin Cymru. Mae hi’n rhannu ei phrofiad o gyrchu HHP Cymru yn ystod pandemig COVID-19.

Fe gontractiodd fferyllydd De Cymru, Geraint Jones, COVID-19 ym mis Ebrill 2020. Mae wedi rhannu i’w brofiadau o gael gefnogaeth trwy HHP Cymru ar ôl iddo gael ei ddiagnosio’n ddiweddarach gyda Long COVID.

" ["post_title"]=> string(47) "Nid oedd lle yn fy mywyd i ofalu amdanof fy hun" ["post_excerpt"]=> string(0) "" ["post_status"]=> string(7) "publish" ["comment_status"]=> string(4) "open" ["ping_status"]=> string(4) "open" ["post_password"]=> string(0) "" ["post_name"]=> string(11) "stori-sarah" ["to_ping"]=> string(0) "" ["pinged"]=> string(0) "" ["post_modified"]=> string(19) "2021-06-14 16:14:58" ["post_modified_gmt"]=> string(19) "2021-06-14 16:14:58" ["post_content_filtered"]=> string(0) "" ["post_parent"]=> int(0) ["guid"]=> string(33) "https://hhpwales.nhs.wales/?p=674" ["menu_order"]=> int(0) ["post_type"]=> string(4) "post" ["post_mime_type"]=> string(0) "" ["comment_count"]=> string(1) "0" ["filter"]=> string(3) "raw" } [4]=> object(WP_Post)#5363 (24) { ["ID"]=> int(642) ["post_author"]=> string(3) "289" ["post_date"]=> string(19) "2021-05-07 14:05:00" ["post_date_gmt"]=> string(19) "2021-05-07 14:05:00" ["post_content"]=> string(9002) "

Natur yw thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni ac mae'r Athro Debbie Cohen, un o sylfaenwyr HHP Cymru, yn garedig iawn wedi rhannu rhai meddyliau ar ba mor bwysig yw hi i staff y GIG gysylltu â natur.

Helo, fy enw i yw'r Athro Debbie Cohen ac rwy'n athro emeritws meddygaeth alwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n golygu fy mod i wedi ymddeol o'r GIG a o Brifysgol Caerdydd, ond dwi ddim wedi ymddeol yn llwyr!

Tua diwedd fy ngyrfa ac ers i mi ymddeol rwyf wedi adeiladu daliad bach 10acre neu fferm fach lle rwy'n bridio ac yn rheoli anifeiliaid brîd prin fel fel defaid, moch a geifr.

Debbie Cohen in a yellow top and jeans petting one of the goats she keeps on her farm

Mae nifer cynyddol o dystiolaeth i ddangos bod llawer o fuddion i fod yn yr awyr agored, gan gynnwys effeithiau cadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol.

Gall ymgysylltu â'r awyr agored a'r amgylchedd naturiol fod ar sawl ffurf gan gynnwys garddio / tyfu, ymweld neu ymarfer mewn mannau gwyrdd, rhyngweithio â bywyd gwyllt a chymryd rhan mewn gwaith cadwraeth.

Canfu astudiaeth a gwblhawyd yn ddiweddar gan Gofal Iechyd Cynaliadwy ar draws tri safle'r GIG a gynhwyswyd yn yr astudiaeth, roedd awydd cryf ymhlith staff iechyd i gymryd amser yn yr awyr agored, gyda hyd at 89% o staff yn nodi & nbsp; yr hoffent dreulio mwy o amser mewn man gwyrdd ar eu safle nag a wnaethant ar hyn o bryd (1). 

Nododd staff a ddywedodd eu bod yn treulio amser yn rheolaidd ym mannau gwyrdd eu safleoedd yn ystod y diwrnod gwaith lefelau sylweddol uwch o les.

Y ffordd fwyaf cyffredin y treuliodd staff amser mewn man gwyrdd yn y gwaith oedd mynd am dro ar y safle yn ystod egwyl.

A young dark haired woman walking along a path through a park

Rhywbeth arall rydw i hefyd wedi'i ddysgu ar fy nhaith yn fy ngalwedigaeth newydd yw sut i reoli'r tir, sut i feddwl am sut i adeiladu fy nhir sydd wedi cael ei adael yn fraenar ers dros 10 mlynedd.

Yn wyneb argyfwng hinsawdd a cholli ffermio bioamrywiaeth a'r rhai sy'n ymwneud â'r amgylchedd naturiol wedi gorfod meddwl yn fawr am sut y gallent adfywio ac ail-greu system sy'n fwy cynaliadwy.

Yr her yma i'r GIG yw meddwl am yr hyn y gallwn ei ddysgu o'r syniadau hyn am gynaliadwyedd ac adfer o'r amgylchedd naturiol y gallwn ei ddefnyddio i ddatblygu a creu gweithlu mwy cynaliadwy yn ogystal â system gofal iechyd mwy cynaliadwy?

Lle i anadlu: gwerthfawrogi man gwyrdd yn safleoedd y GIG ar gyfer lles staff

https://youtu.be/6W8vMW2srEs

Mae angen i ni feddwl yn fwy, mae angen i ni fod yn feiddgar a dysgu oddi wrth eraill; gan feddwl yn gyfannol am sefydliadau yn yr un ffordd y byddem yn meddwl am adfer amgylchedd naturiol a sut y gallwn adfywio rhywbeth sy'n dod yn gynaliadwy yn barhaus.

Er enghraifft, nid yw'n gynaliadwy ychwanegu nitrogen fel ateb cyflym i bridd heb ofalu am yr hyn sy'n ei ddisbyddu. Mae'n rhaid i ni gael sylfeini'r pridd yn iawn i gynnal twf iach.

Felly beth allwn ni ei ddysgu o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd o'n cwmpas?

Beth am glicio ar rai o'r fideos canlynol i weld beth mae rhai o fy ffrindiau a chydweithwyr wedi bod yn meddwl amdano.

Pa syniadau allech chi eu cymryd a'u defnyddio?

Sue Pritchard - Prif Weithredwr y Comisiwn Ffermio Bwyd a Chefn Gwlad

https://youtu.be/c2AnjRQZ24A

Kim Stoddart - Newyddiadurwr, awdur a golygydd garddio

https://youtu.be/uTqqA0bXtAI

Dom Higgins - Pennaeth Addysg ac Iechyd yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

https://youtu.be/MdZ0UiLirC0

Diolch a chredydau fideo i Ben Harris

1.  Centre for Sustainable Healthcare (2020).  Workplace, Wellbeing and Green Space. 

Adnoddau

HHP Cymru

Mae Iechyd ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru (HHP Cymru) yn cynnig mynediad at gymorth iechyd meddwl i holl weithwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr GIG Cymru.

Mae HHP Cymru yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n cael ei gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru a'i weinyddu trwy Brifysgol Caerdydd.

" ["post_title"]=> string(41) "Pwysigrwydd cysylltu â natur er ein lles" ["post_excerpt"]=> string(0) "" ["post_status"]=> string(7) "publish" ["comment_status"]=> string(4) "open" ["ping_status"]=> string(4) "open" ["post_password"]=> string(0) "" ["post_name"]=> string(40) "pwysigrwydd-cysylltu-a-natur-er-ein-lles" ["to_ping"]=> string(0) "" ["pinged"]=> string(0) "" ["post_modified"]=> string(19) "2021-05-10 14:07:01" ["post_modified_gmt"]=> string(19) "2021-05-10 14:07:01" ["post_content_filtered"]=> string(0) "" ["post_parent"]=> int(0) ["guid"]=> string(33) "https://hhpwales.nhs.wales/?p=642" ["menu_order"]=> int(0) ["post_type"]=> string(4) "post" ["post_mime_type"]=> string(0) "" ["comment_count"]=> string(1) "0" ["filter"]=> string(3) "raw" } }