Cwrdd â’r bobl sydd yma i helpu: Dr Rob Morgan

Pan fyddwch yn cysylltu â HHP Cymru am y tro cyntaf, byddwch yn sgwrsio ag un o’n meddygon cynghorol i’n helpu i ddeall y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Mae Dr Rob Morgan yn un o’r cynghorwyr hyn ac mae wedi rhannu ei stori am sut y daeth i weithio i HHP Cymru.

Mae HHP Cymru yn cynnig mynediad at gymorth iechyd meddwl, sy’n cynnwys trefnu apwyntiad gyda therapydd. Rydym yn cynnig hunangymorth, hunangymorth gydag arweiniad, cefnogaeth gan gymheiriaid a therapïau wyneb yn wyneb rhithwir gydag arbenigwyr achrededig. Cewch ragor o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu yma.

Dechreuodd y meddyg teulu rhan-amser Dr Rob Morgan weithio fel meddyg cynghorol ar gyfer Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru (HHP Cymru) ym mis Mawrth eleni.

Wrth i’r pandemig roi mwy o bwysau ar y GIG ar bob lefel, mae Rob yn egluro bod hyn yn ei dro wedi achosi straen ymhlith staff.

Esboniodd Rob:

“Fel canghennau eraill o ofal iechyd, mae Ymarfer Cyffredinol yn anodd ar hyn o bryd, wrth i feddygon geisio delio ag ôl-groniadau o wasanaeth arferol a’r galw o ddydd i ddydd am apwyntiadau, ar gyfer cyflyrau acíwt a rhai tymor hir, ac yn amlach na pheidio yn gysylltiedig â COVID-19 mewn rhyw ffordd.

“Wrth i mi ddod i ddeall y sefyllfa yma ym mis Ionawr eleni dechreuais feddwl. Gan fod gen i fwy o amser rhydd nag erioed o’r blaen yn fy ngyrfa, beth am geisio gweithio i HHP a pharhau i ddefnyddio’r sgiliau gwrando anfeirniadol rydw i wedi bod yn eu defnyddio drwy fy ngyrfa i gyd?”

Cafodd COVID-19 effaith y tu hwnt i fywyd proffesiynol Rob pan gafodd ddiagnosis o COVID-19. Ar ôl gweld drosto’i hun yr effeithiau negyddol y gall COVID-19 eu cael ar iechyd corfforol a meddyliol, penderfynodd Rob ymuno â HHP Cymru.

“Rwy’n siŵr bod fy mhrofiad fel meddyg teulu ac fel rhywun a gafodd ei heintio ar ddechrau’r don gyntaf wedi cael rhywfaint o ddylanwad ar fy mhenderfyniad i helpu.

“Roedd siarad â phobl gyda’r salwch ofnadwy hwn yn ôl ym mis Mawrth 2020 yn brofiad newydd, er fy mod i wedi gweld llawer o bobl sâl yn fy mywyd gwaith.

“Roedd cael COVID-19 ei hun yn brofiad na hoffwn ei gael eto, ac er i mi fod yn ddigon ffodus i beidio â bod angen mynd i’r ysbyty, mae’n rhy fuan i anghofio’r teimladau hynny o ansicrwydd ynghylch cael salwch nad oeddem yn gwybod llawer amdano ar y pryd.

“Doedd yr ansicrwydd hwnnw ddim yn rhywbeth unigryw i mi na chleifion eraill, roedd yn rhywbeth roedd aelodau teulu a roddodd ofal a chysur yn ei deimlo’n ddwfn hefyd.”

Canfu Rob fod ei brofiad personol o gael COVID-19 wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach iddo o brofiadau ei gleifion.

“Wrth siarad i fwy a mwy o gleifion dros y 12 mis diwethaf, yr hyn sydd wedi dod yn amlwg i mi yw’r baich seicolegol y mae llawer o bobl wedi’i ddioddef.”

Yn ôl Rob, mae’r beichiau seicolegol hyn yn cynnwys:

  • Ymdopi ag unigrwydd yn ystod y cyfnod clo
  • Gweithio dan amgylchiadau sy’n achosi straen, heb ddiwedd mewn golwg
  • Colli aelodau o’r teulu a chydweithwyr i’r salwch
  • Teimlad o golli hyder

Ydych chi wedi canfod bod y trafferthion seicolegol sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn effeithio ar weithwyr y GIG?

Mae Rob yn trafod sut mae wedi sylwi bod y trafferthion seicolegol sy’n gysylltiedig â COVID-19

“yn fwy amlwg ymhlith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi bod ar y rheng flaen, ac sydd wedi mynd y tu hwnt i ddyletswyddau arferol, gan roi eu hunain mewn perygl oherwydd natur eu gwaith.

“Mae’r pwynt olaf hwn yn rhoi pwyslais ychwanegol ar fy rhesymau dros eisiau helpu unigolion o’r fath, ac mae gweithio i HHP wedi fy ngalluogi i wneud hyn yn wythnosol.”

Beth yw rôl meddyg cynghorol HHP Cymru?

“Fel meddyg cynghorol mae fy rôl yn gwbl wahanol i rôl meddyg teulu. Dydw i ddim yn cynnig therapi a dydw i ddim yn rhoi diagnosis. Rwy’n gwrando, yn annog, ac yn helpu pwy bynnag sy’n ffonio i rannu ei stori, ac yn dweud beth sydd ei angen er mwyn i bethau allu symud ymlaen.

“Mae sgyrsiau yn gyfrinachol ac yn gyfle i bobl siarad â rhywun nad yw’n gysylltiedig â’u sefyllfa, ac sy’n gallu clywed pethau o’r newydd a heb unrhyw ragfarn. Mae’r rhan fwyaf o fy sgyrsiau’n para hanner awr ond mae rhai yn fyrrach neu’n hirach.

“Ar ddiwedd sgwrs gyda meddyg cynghorol, rydyn ni’n trafod opsiynau i benderfynu beth i’w wneud nesaf, a pha opsiynau a allai fod o fudd i’r person ar gyfer y dyfodol.

“Gall hyn fod ar sawl ffurf, a gall amrywio o atgyfeirio i therapydd neu beidio â gwneud llawer o gwbl, gan fod yr unigolyn dan sylw wedi dod o hyd i’r atebion priodol ei hun beth bynnag. Does dim ffordd gywir nac anghywir o’i wneud.”

Mae Dr Rob Morgan yn un o’r meddygon cynghorol y byddwch yn siarad â nhw os byddwch yn cysylltu â HHP Cymru. Y ffordd hawsaf o gael mynediad at adnoddau HHP Cymru yw drwy’r ffurflen atgyfeirio.

Ydych chi wedi wynebu unrhyw heriau wrth symud o weithio fel meddyg teulu i fod yn feddyg cynghorol?

“Yn fy marn i, yr her fwyaf oedd symud i ffwrdd o fy rôl fel meddyg teulu i rôl meddyg cynghorol a gweithredu fel cyfrwng ar gyfer rywbeth a all arwain at newid yn hytrach na chyflwyno’r newid hwnnw fy hun.

“Mae’r cyfarfodydd tîm rheolaidd a’r oruchwyliaeth gefnogol y mae HHP yn ei chynnig i mi a meddygon cynghorol eraill yn rheolaidd wedi helpu’r mudiad hwn.”

Adnoddau

Darllenwch ragor

Anesthetydd ymgynghorol sy’n byw yng Nghaerdydd yw Sarah. Mae hi’n rhannu ei phrofiad o sut y gwnaeth HHP Cymru ei helpu drwy drafferthion personol.

  • Darllenwch stori Sarah yma

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *